Firefox Developer Edition
Croeso i'ch hoff borwr newydd. Cewch y nodweddion diweddaraf, perfformiad cyflym a'r offer datblygu sydd eu hagen arnoch ar gyfer adeiladu ar gyfer y we agored.
Firefox Developer Edition — Cymraeg
Efallai nad yw eich system yn cwrdd â gofynion Firefox, ond mae modd i chi brofi un o'r rhain:
Firefox Developer Edition — Cymraeg
- Firefox Developer Edition
- Firefox Developer Edition
- Firefox Developer Edition
- Firefox Developer Edition
- Firefox Developer Edition
- Firefox Developer Edition
- Llwytho i lawr ar gyfer Linux 64-bit
- Llwytho i lawr ar gyfer Linux 32-bit
Yn defnyddio Debian, Ubuntu neu unrhyw ddosbarthiad sy'n seiliedig ar Debian?
Gallwch chi osod ein storfa APT yn ei le.
Mae Firefox Developer Edition yn anfon adborth yn awtomatig i Mozilla. Dysgu rhagor
Firefox Developer Edition
Y porwr ar gyfer datblygwyr
Yr holl offer datblygwr diweddaraf o fewn y beta yn ogystal â nodweddion fel y Golygydd Consol Aml-lein ac Arolygydd WebSocket.
A proffil a llwybr ar wahân fel y gallwch chi ei redeg yn hawdd ochr yn ochr â Rhyddhau neu Beta Firefox.
Dewisiadau wedi'u teilwra ar gyfer datblygwyr gwe: Mae porwr a dadfygio o bell yn cael eu galluogi'n rhagosodedig, yn ogystal a'r thema dywyll a botwm bar offer y datblygwr.

CSS anweithredol
Mae Firefox DevTools bellach yn nodi datganiadau CSS yn llwyd os nad ydyn nhw'n cael effaith ar y dudalen. Pan fyddwch chi'n hofran dros yr eicon gwybodaeth, fe welwch neges ddefnyddiol ynghylch pam nad yw'r CSS yn cael ei osod, gan gynnwys awgrym ynghylch sut i ddatrys y broblem.
Dysgu rhagor

Firefox DevTools
Mae'r Firefox DevTools newydd yn bwerus, hyblyg a gorau oll, yn hacadwy. Mae'n cynnwys y dadfygiwr JavaScript gorau yn ei ddosbarth, sy'n gallu targedu porwyr lluosog ac wedi ei adeiladu gyda React a Redux.
Dysgu rhagor

Master CSS Grid
Firefox yw'r unig borwr gydag offer wedi eu hadeiladu'n benodol ar gyfer adeiladu a chynllunio grid CSS. Mae'r offer hyn yn caniatáu i chi ddelweddu'r grid, dangos enwau ardal cysylltiedig, rhagweld trawsnewidiadau ar y grid a mwy.
Dysgu rhagor

Panel Ffontiau
Mae'r panel ffontiau newydd yn Firefox DevTools yn rhoi i ddatblygwyr fynediad cyflym i'r holl wybodaeth sydd ei angen arnynt am ffontiau sy'n cael eu defnyddio mewn elfennau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth werthfawr, fel ffynhonnell ffontiau, pwysau, arddull a rhagor.
Dysgu rhagor
Cynllunio. Codio. Profi. Mireinio.
Adeiladu a Pherffeithio eich gwefannau
gyda Firefox DevTools
Archwiliwr
Archwiliwch a choethwch eich cod i adeiladu cynlluniau perffaith.
Debugger
Dadfygiwr JavaScript pwerus sy'n cynnal eich fframwaith.
Rhwydwaith
Monitrwch geisiadau rhwydwaith sy'n gallu arafu neu rwystro eich gwefan.
Panel Storio
Ychwanegwch, newid neu dynnu data storfa, cwcis, cronfeydd data a data sesiynau.
Y Modd Cynllunio Ymatebol
Profwch wefannau ar ddyfeisiau wedi eu hefelychu o fewn eich porwr.
Perfformiad
Agor rhwystrau, llyfnhau prosesau a gwneud y mwyaf o asedau.
Golygydd Arddull
Golygu a rheoli eich taenlenni CSS o fewn eich porwr.
Rhannwch eich barn
Mae adborth yn ein gwneud yn well. Dywedwch wrthym sut gallwn wella'r porwr a'r offer Datblygwyr.
Ymunwch
Helpwch ni i adeiladu'r porwr gwe annibynnol olaf. Ysgrifennwch god, drwsio gwallau, creu ychwanegion a rhagor.
Llwythwch i lawr y porwr Firefox sydd wedi ei greu ar gyfer datblygwyr
